Close

Menu

Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 12:00 18 January 2025

Mae ein rhwydwaith wedi bod yn ail-lenwi dros nos ac mae cyflenwadau'n cael eu hadfer i rai cwsmeriaid.

Mae poteli dŵr potel ar gael: Maes Parcio Pen Morfa Llandudno (LL30 2BG), Bodlondeb (safle hen swyddfa'r Cyngor (LL32 8DU), Parc Eirias (LL29 7SP) a Zip World Conwy (LL32 8QE).

Ni fydd cyflenwadau dŵr yn cael eu hadfer yn llawn i'r holl gwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio am hyd at 48 awr.

Mae hon yn brif bibell ddŵr pwysedd uchel, ac rydym mewn cyfnod anodd iawn yn y broses. Mae angen i ni ail-lenwi'r prif gyflenwad dŵr a'r rhwydwaith dŵr ehangach yn ofalus iawn er mwyn osgoi problemau pellach.

Mae'r rhwydwaith bron yn 900km o hyd ac mae'n cynnwys 13 tanc storio tanddaearol, gyda'n tanc storio mwyaf yn cyfateb i 9 pwll nofio maint Olympaidd.

Bydd cyflenwad dŵr gwahanol gymunedau o fewn ardal y rhwydwaith yn cael ei adfer ar wahanol adegau, wrth i'r rhwydwaith lenwi eto.

Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.

Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

I gydnabod yr anghyfleustra a brofir gan gwsmeriaid oherwydd y diffyg cyflenwad, bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol. Mae manylion wedi'u cyhoeddi yma ar gyfer cwsmeriaid busnes sy'n cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Hawliad am Golledion Elw Gros a Chostau Ychwanegol i Barhau i Weithredu

Darllenwch y canllawiau cyn llenwi’r ffurflen hon

Pwrpas yr adran hon yw ein galluogi ni i’ch adnabod chi fel cwsmer Dŵr Cymru ac asesu a ydych wedi dioddef o amhariad yn ystod y cyfnod sy’n gymwys i’w ystyried ar gyfer taliadau ewyllys da.

Dylid nodi y gellir rhannu’r wybodaeth a ddarparwch â’r cynrychiolwyr trydydd parti a benodwyd i asesu’ch cais, neu ei defnyddio i ddiweddaru ein cofnodion.

Dylid nodi y bydd clicio ar nôl yn eich porwr yn ailddechrau’r ffurflen.

Eich cyfrif busnes gyda Dŵr Cymru

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnom i ddod o hyd i’ch cyfrif fel cwsmer Dŵr Cymru.

Bydd ein cysylltiadau trwy e-bost yn bennaf. Gallwn ni neu ein partneriaid trydydd parti roi galwad i chi i drafod unrhyw ymholiadau cymhleth neu frys am eich cais

Pryd y bu tarfu ar y busnes?