Close

Menu

Gwasanaethau ar-lein

Dŵr yn Gollwng


Rydym yn gweithio’n galed i ganfod a thrwsio gollyngiadau yn ein rhwydwaith.

Os ydych yn canfod gollyngiad yr ydych chi’n meddwl sy’n dod o’n pibellau ni, defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod amdano.

Gorau po fwyaf o wybodaeth a roddwch i ni, gan y bydd yn ein helpu i asesu ei ddifrifoldeb ac yn ein helpu pan fyddwn yn ymweld â’r ardal i geisio dod o hyd i’r gollyngiad.

Rydym yn ceisio mynd i ollyngiadau y rhoddir gwybod i ni amdanyn nhw a’u trwsio o fewn 48 awr. Dyma pryd mae’r gollyngiad yn syml i’w drwsio ac nid oes angen unrhyw ganiatâd i wneud y gwaith, fel caniatâd i roi rheolaeth traffig ar waith. Felly weithiau byddwch chi’n gweld bod gollyngiad yn para’n hirach ac er ein bod yn deall y rhwystredigaeth yn sgil hyn, gallwn eich sicrhau ein bod yn cymryd ein cyfrifoldeb dros drwsio gollyngiadau o ddifrif ac yn diolch i bobl am gymryd yr amser i roi gwybod i ni amdanyn nhw.