Wedi’i ddiweddaru: 14:00 02 December 2024
PWYSIG: Rydyn ni wedi ymestyn yr Hysbysiad Berwi Dŵr sydd mewn grym ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardaloedd canlynol: Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Ton Pentre, y Gelli, rhannau o’r Pentre, rhannau o Donypandy a rhannau o Ystrad.
Achosodd Storm Bert lifogydd sylweddol ar safle Gweithfeydd Trin Dŵr Tyn-y-waun, gyda dŵr wyneb yn llifo oddi ar y bryn i mewn i’r tanc storio dŵr yfed gan effeithio ar y tanc ei hun.
Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio ddydd a nos i unioni’r broblem, ond mae’r gwaith i atal difrod rhag llifogydd pellach yn golygu gosod pilenni anhydraidd o gwmpas y tanc storio.
Mae angen cyfnod o dywydd sych i gyflawni hyn yn llwyddiannus, felly mae’r tywydd gwlyb yr wythnos hon wedi amharu ar ein gwaith, ac mae’r rhagolygon yn addo glaw eto dros y penwythnos.
Bydd ein timau’n parhau i weithio rownd y cloc i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser, rydyn ni’n parhau i ofyn i’r holl gwsmeriaid yn yr ardaloedd o dan sylw i barhau i ferwi eu dŵr cyn ei ddefnyddio at ddibenion yfed.
Rydyn ni’n dosbarthu dŵr potel i’r cwsmeriaid sydd ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ac i gartrefi gofal, ac yn gweithio gyda safleoedd allweddol fel ysbytai.
Mae’n flin gennym am yr anghyfleustra mae yn hyn wedi ei achosi.
Ymestyn yr Hysbysiad Berwi Dŵr - Llythyr agored oddi wrth Peter Perry
Gorsafoedd dŵr potel
Sefydlwyd gorsafoedd dŵr potel, ac mae’r rhain ar agor yn y lleoliadau canlynol:
Rydyn ni’n blaenoriaethu cwsmeriaid bregus, ac yn gofyn i bobl gymryd beth sydd ei angen arnynt yn unig.
Gall cwsmeriaid ddilysu a yw’r broblem yn effeithio ar eu cyflenwad nhw trwy ddefnyddio’r gwiriwr cod post ar ein gwefan: https://www.dwrcymru.com/cy-gb/boil-water-notice
Gall unrhyw gwsmeriaid y mae’r hysbysiad yn effeithio arnynt gael cyngor trwy ein gwefan lle mae yna restr o Gwestiynau Cyffredin.
Ewch i adran Yn Eich Ardal ein gwefan neu i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau pellach.