Os ydych yn canfod gollyngiad yr ydych chi’n meddwl sy’n dod o’n pibellau ni, defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod amdano.
Gorau po fwyaf o wybodaeth a roddwch i ni, gan y bydd yn ein helpu i asesu ei ddifrifoldeb ac yn ein helpu pan fyddwn yn ymweld â’r ardal i geisio dod o hyd i’r gollyngiad. Ein nod yw cyrraedd ac ymchwilio i adroddiad o ollyngdiad o fewn 48 awr neu’n gynharach yn dibynnu ar ddifrifoldeb y gollyngiad. Os yw’r gollyngiad yn un syml i’w drwsio, ein nod yw gwneud hynny o fewn 5 diwrnod yn dilyn ymchwiliad cychwynnol.
Weithiau efallai y byddwch yn gweld gollyngiad yn rhedeg am gyfnod hirach; gallai hyn fod am sawl rheswm, er enghraifft bod angen i ni gael caniatâd i roi trefniadau rheoli traffig ar waith neu fod angen gwaith cynllunio sylweddol er mwyn trwsio’r gollyngiad. Pan fydd y gwaith trwsio wedi ei wneud, ein nod yw dychwelyd yr ardal i’w gyflwr gwreiddiol mor gyflym â phosibl, ond gallai hyn gymryd mwy o amser nag a ddisgwyliwyd os oes amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.
Rydym yn deall y gall hyn fod yn rhwystredig ond hoffem roi sicrwydd i chi ein bod yn cymryd ein cyfrifoldeb am drwsio gollyngiadau o ddifri, bydd hyn yn ein helpu i gynnal ein cyflenwad ac hefyd yn helpu i leihau y dŵr sy’n cael ei golli a’i wastraffu cymaint â phosibl. Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am gymryd yr amser i roi gwybod i ni am ollyngiadau.