Close

Menu

Storm Goretti

Yn ôl y rhagolygon, bydd Storm Goretti’n dod ag eira, glaw trwm, a gwyntoedd cryfion dros y 24 awr nesaf. Mae ein timau wedi bod yn paratoi ac yn gwneud popeth y gallan nhw i gynnal cyflenwadau a sefydlogi’r rhwydwaith.

Dylai cwsmeriaid barhau i gymryd y camau canlynol er mwyn atal llifogydd yn eu cartrefi:

  • Archwiliwch eich pibellau, yn arbennig y rhai sydd allan yn yr awyr agored neu mewn garej
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble mae’ch stoptap, fel rheol bydd hyn o dan sinc y gegin, ond gallai fod yn y tŷ bach lawr llawr neu yn y garej
  • Wrth i’r rhew ddadmer, cadwch lygad am ddŵr yn gollwng trwy gymalau neu holltau yn y pibellau, a chaewch y stoptap os oes angen
  • Cadwch rif plymwr cofrestredig wrth law

Mae rhagor o gymorth a chynghorion yma.

Cyflwyno Darlleniad Mesurydd


Os ydych chi’n symud ac yn dymuno cyflwyno darlleniad terfynol, gadewch wybod i ni yn rhan o’n proses symud ac nid y ffurflen hon.

Defnyddiwch y ffurflen hon i gyflwyno darlleniad diweddaraf eich mesurydd yn unig.


Cliciwch yma am ganllawiau manwl ar sut i ddarllen eich mesurydd dŵr.


Cofiwch, nid oes angen i chi gyflwyno darlleniad mesurydd oni bai ein bod wedi gofyn i chi wneud hynny. Mae ein systemau'n cyfrifo'ch tariff yn awtomatig bob blwyddyn a dim ond yr hyn yr ydych chi'n ei ddefnyddio y byddwch chi'n talu amdano.

Yr wybodaeth angenrheidiol i gyflwyno darlleniad

  • Cyfeirnod eich cyfrif Dŵr Cymru Gallwch ddod o hyd iddo yn y gornel uchaf ar ochr dde eich bil, ar eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif, neu’r cyfeirnod ar eich taliad os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol.
  • Darlleniad mesurydd Dim ond y rhifau Gwyn ar Ddu neu Du ar Wyn sydd eu hangen