Close

Menu

Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 17:00 22 January 2025

Gallwn gadarnhau bod ein rhwydwaith bellach wedi ail-lenwi a chyflenwadau dŵr wedi’u hadfer. Mae'r holl ysgolion yr effeithir arnynt bellach yn ôl ar gyflenwad.

I gydnabod yr anghyfleustra a brofir gan gwsmeriaid oherwydd y diffyg cyflenwad, bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol.

Mae manylion wedi'u cyhoeddi yma ar gyfer cwsmeriaid busnes a domestig sy'n cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

Hoffem ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a hoffem ddiolch iddynt am weithio gyda ni.

Mae gorsafoedd dŵr potel bellach ar gau.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan.

Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.

Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Ymholiad Cartref

Rydyn ni am ofyn ambell i gwestiwn syml i chi i'w trosglwyddo i'n tîm i'w hasesu. Wedyn byddan nhw'n rhoi galwad i chi i drafod y camau nesaf ac i esbonio beth y gallwn ni helpu ag ef.

Ni ellir dod o hyd i'r cyfeiriad

Ymwadiad: Trwy gyflwyno'r ffurflen hon, rydych chi'n cytuno i ni gysylltu â chi am eich cais. Dim ond tîm Cartref fydd yn defnyddio'ch gwybodaeth a hynny mewn perthynas â'r prosiect Cartref a dim byd arall.