Close

Menu

Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio a'n sgwrs we yw:

Dydd Llun 29 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr: 08:00 - 18:00
Dydd Sadwrn 3 Ionawr: 09:00 - 13:00

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Newid eich Enw


Defnyddiwch y ffurflen hon i newid yr enw ar eich cyfrif.

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon os oes angen i chi newid eich enw am y rhesymau canlynol:

  • Rydych chi wedi priodi neu ysgaru yn ddiweddar.
    (Os ydych yn rhoi gwybod i ni bod eich enw wedi newid oherwydd ysgariad neu wahanu, a bod un o ddeiliad y cyfrif yn symud cartref o ganlyniad i hynny, cysylltwch â ni).
  • Rydych chi wedi newid eich enw trwy weithred newid enw.
  • Mae sillafiad eich enw yn anghywir ar hyn o bryd
  • Mae enw'r cwmni wedi newid. Os yw rhif y Cwmni hefyd wedi newid, bydd angen i chi gysylltu â ni er mwyn i ni allu creu cyfrif newydd.

Os ydych eisiau ychwanegu neu ddileu enw o’ch cyfrif, cliciwch yma am ragor o wybodaeth.


I lenwi'r ffurflen hon bydd angen

  • Cyfeirnod eich cyfrif Dŵr Cymru Gallwch ddod o hyd iddo yn y gornel uchaf ar ochr dde eich bil, ar eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif, neu’r cyfeirnod ar eich taliad os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol.
  • Eich manylion personol Bydd angen eich dyddiad geni, cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt.
  • Enw newydd Manylion eich enw newydd a’ch enw blaenorol.