Close

Menu

Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 11:00 22 January 2025

Gallwn gadarnhau bod ein rhwydwaith bellach wedi ail-lenwi a chyflenwadau dŵr wedi’u hadfer. Mae'r holl ysgolion yr effeithir arnynt bellach yn ôl ar gyflenwad.

I gydnabod yr anghyfleustra a brofir gan gwsmeriaid oherwydd y diffyg cyflenwad, bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol.

Mae manylion wedi'u cyhoeddi yma ar gyfer cwsmeriaid busnes a domestig sy'n cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

Hoffem ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a hoffem ddiolch iddynt am weithio gyda ni.

Mae gorsafoedd dŵr potel bellach ar gau.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan.

Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.

Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Adborth am ein gwaith buddsoddi

Rydyn ni bob amser yn ystyried ffyrdd o wella ein gwaith buddsoddi a chyfathrebu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cwsmeriaid, felly byddem yn gwerthfawrogi os gallech roi ychydig funudau o’ch amser i lenwi ein ffurflen adborth.

Hoffem rannu’ch barn â’n partneriaid ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, yn ein deunydd hyrwyddo ac yn ein datganiadau i’r wasg. Hoffem hefyd ddefnyddio’ch enw fel rhan o ddyfyniadau. Os ydych chi’n hapus i ni wneud hyn, ticiwch y blwch isod.

Mae ein gwobrau Diolch yn cydnabod ac yn gwobrwyo unigolion o fewn Dŵr Cymru sy’n cymryd y cam ychwanegol. Dyma’n ffordd ni o ddweud diolch wrth ein cydweithwyr.