Mewngofnodwch i ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein, neu cofrestrwch i gael ein gwasanaethau ar-lein.
Close
Menu
Chwilio
Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd a llawer yn digwydd. Os yw’n ei chael hi'n anodd talu biliau neu’n mynd i ddyled, gallwn helpu gydag amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys:
Mae ein tariff HelpU yn cefnogi'r cwsmeriaid hynny sydd ar fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd ac sydd ag incwm isel yn eu haelwyd.
Mae'r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid wedi'i chynllunio i helpu'r rhai sydd mewn caledi ariannol difrifol i glirio dyled a mynd yn ôl ar y trywydd cywir gyda'u taliadau.
Mae ein cynllun WaterSure Cymru ar gael i gwsmeriaid sydd â mesurydd dŵr neu sy'n dewis cael mesurydd, sy’n derbyn budd-dal cymwys ac sydd naill ai â chyflwr meddygol sydd angen mwy o ddefnydd dŵr neu sydd â 3 phlentyn o dan 19 oed.
Mae'n ddrwg gennym nad yw eich cleient yn gymwys ar gyfer unrhyw un o'n cynlluniau presennol ar hyn o bryd. Edrychwch ar ein tudalen Cymorth gyda'ch biliau i gael mwy o wybodaeth am arbed arian er enghraifft awgrymiadau arbed dŵr, cael mesurydd a'n cynllun Cymuned. Cofiwch, os bydd ei sefyllfa'n newid, gan ei wneud yn gymwys ar gyfer ein cynlluniau, cysylltwch â ni am gymorth a chefnogaeth.