Close

Menu

Symud allan o'ch llety myfyrwyr

Information

Os mai chi yw deiliad y cyfrif a’ch bod yn symud allan o'ch llety myfyriwr, naill ai i eiddo arall neu'n cau eich cyfrif, gallwch fewngofnodi neu gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif a rhoi gwybod i ni ar-lein yma.

Mae cwestiynau cyffredin am lety myfyrwyr ar gael yma.

Cais i ddychwelyd i daliadau anfesuredig

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais i’ch taliadau ddychwelyd i fod yn rhai anfesuredig. Gallwch chi fynd yn ôl i gael y bil anfesuredig safonol ar gyfer eich eiddo ar unrhyw adeg hyd at ddwy flynedd o'r dyddiad y gosodwyd y mesurydd, neu'r dyddiad y cymhwyswyd y Tâl Mesuredig ar sail Asesiad. Fodd bynnag, os oes gennych chi bwll nofio yn yr eiddo (a gaiff ei lenwi'n awtomatig) neu os ydych chi’n defnyddio taenellwr i ddyfrio'r ardd, yna mae'n rhaid i chi barhau i dalu costau mesuredig. Os byddwch chi’n gwerthu eich eiddo neu'n symud allan, ni fydd gan y deiliad newydd yr opsiwn o newid yn ôl i fil anfesuredig.

Os gosodwyd y mesurydd yn rhan o’n rhaglen mesuryddion cynyddol, gallwch fynd yn ôl i gael bil safonol anfesuredig ar gyfer eich eiddo ar unrhyw adeg hyd at ddwy flynedd o’r dyddiad y gwnaethoch optio i mewn i gael bil mesuredig.

Manylion eiddo

Nodwch y cod post llawn i chwilio am yr eiddo

Ni ellir dod o hyd i'r cyfeiriad