Yn ôl y rhagolygon, bydd Storm Goretti’n dod ag eira, glaw trwm, a gwyntoedd cryfion dros y 24 awr nesaf. Mae ein timau wedi bod yn paratoi ac yn gwneud popeth y gallan nhw i gynnal cyflenwadau a sefydlogi’r rhwydwaith.
Dylai cwsmeriaid barhau i gymryd y camau canlynol er mwyn atal llifogydd yn eu cartrefi:
- Archwiliwch eich pibellau, yn arbennig y rhai sydd allan yn yr awyr agored neu mewn garej
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble mae’ch stoptap, fel rheol bydd hyn o dan sinc y gegin, ond gallai fod yn y tŷ bach lawr llawr neu yn y garej
- Wrth i’r rhew ddadmer, cadwch lygad am ddŵr yn gollwng trwy gymalau neu holltau yn y pibellau, a chaewch y stoptap os oes angen
- Cadwch rif plymwr cofrestredig wrth law
Mae rhagor o gymorth a chynghorion yma.