Cwynion ynghylch ein gwasanaeth bilio


Os byddai'n well gennych siarad ag un o'n tîm ar unwaith, ffoniwch ni am ddim - neu defnyddiwch ein gwasanaeth Sgwrs Fyw.

Mae ein gwasanaeth Sgwrs Fyw ar gael rhwng 8am ac 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9:00am a 1:00pm ddydd Sadwrn. Chwiliwch am y botwm yng nghornel dde isaf eich sgrin.

Gallwch hefyd roi neges i ni’n uniongyrchol drwy Facebook neu Twitter

Siarad â chynghorydd

0800 052 6058

8am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac 9am i 1pm ddydd Sadwrn

Os byddwch chi’n cwyno, beth allwch chi ei ddisgwyl?

  • Byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys unrhyw faterion ar unwaith.
  • Os yw'n gymhleth a bod angen mwy o amser arnom, byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi yn gyntaf.
  • Byddwch yn cael enw’r unigolyn a fydd yn ymchwilio i’ch cwyn.

Os yw eich cwyn yn ymwneud â dyled y mae anghydfod yn ei chylch, byddwn yn gohirio unrhyw broses adennill dyledion nes ein bod wedi cwblhau ein hymchwiliadau. Mae'n bwysig cofio y dylech barhau i dalu unrhyw swm nad oes anghydfod yn ei gylch tra byddwn ni’n ymchwilio.

Ddim yn fodlon â'n hymateb?

Os ydych wedi cyflwyno cwyn ond nad ydych yn fodlon â'n hymateb, yna gallwch ofyn i'ch achos gael ei adolygu.

Rhagor o wybodaeth