Close

Menu

Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol


Priority services image

Mae angen cymorth ar bawb o bryd i’w gilydd. Efallai bod gennych anawsterau gyda’ch golwg neu’ch clyw. Efallai eich bod yn rhiant gyda phlant ifanc gartref. Efallai bod gennych heriau symudedd a fyddai’n ei gwneud hi’n anodd mynd i’r siop ar gyfer dŵr potel os byddai rhywbeth yn tarfu ar eich cyflenwad dŵr. Neu efallai fod gennych gyflwr meddygol sy’n golygu eich bod yn dibynnu’n fawr ar eich cyflenwad dŵr.


Beth bynnag yw eich amgylchiadau, mae ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol yn ein helpu i sicrhau ein bod yn rhoi’r cymorth cywir a’r gwasanaeth gorau posibl i chi.

Defnyddiwch y ffurflen hon i:

  • Ymuno â’r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol am ddim
  • Tynnu eich hun oddi ar y gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaethol os nad oes angen cymorth arnoch chi mwyach
  • Diweddaru eich gwybodaeth os yw eich amgylchiadau wedi newid ac efallai y bydd angen cymorth gwahanol arnoch gennym ni

Trosolwg o’r gofynion

  • Cyfeirnod eich cyfrif Dŵr Cymru Gallwch ddod o hyd iddo yn y gornel uchaf ar ochr dde eich bil, ar eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif, neu’r cyfeirnod ar eich taliad os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol.