Cysylltu â Ni
1. Dewis pwnc Rhoi gwybod i ni am brofedigaeth
2. Mae’n ddrwg gennym glywed am eich profedigaeth
Rhoi gwybod i ni ar-lein
Rydym ni’n sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd i chi, i’w wneud yn haws gallwch adael i ni wybod am y brofedigaeth gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein syml
Rhoi gwybod i ni ar-leinA oes angen mwy o gymorth arnoch?
Rydym ni’n sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd i chi, felly os hoffech chi gael cymorth yn ystod y broses, mae ein hymgynghorwyr cwsmeriaid cymwynasgar yma i’ch helpu chi.
8am - 6pm Llun - Gwener a 9am - 1pm Sadwrn.
A yw’n well gennych ein ffonio ni?
Gallwch siarad ag un o’n hymgynghorwyr cwsmeriaid a fydd yn barod i’ch helpu
8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
9:00am - 1:00pm Sadwrn
Fel arfer mae ein hamseroedd aros hiraf rhwng 11am ac 1pm, ond rydym ar agor tan 6pm ar ddyddiau'r wythnos os hoffech gysylltu â ni ar adeg dawelach.
Camau arall
Ein Strategaeth Bregusrwydd newydd hyd at 2030
Cefnogi ein cwsmeriaid. Gweithio wrth galon ein cymuned.
Cliciwch yma i wybod mwyCwestiynau Cyffredin
Mae cyfeirnod eich cyfrif Dŵr Cymru (cyfeirnod cwsmer) yn cynnwys 10 digid a gellir ei weld yng nghornel uchaf dde eich bil.
Os nad ydych chi’n cael biliau papur ond eich bod yn defnyddio gwasanaeth ‘Fy Mil’, gallwch hefyd ddod o hyd i’ch cyfeirnod cwsmer drwy fewngofnodi.
Gallwch ddweud wrthym eich bod chi’n symud drwy ddefnyddio un o’n ffurflenni ar-lein
A oes gennych fesurydd dŵr yn eich hen gartref neu eich cartref newydd?
Oes
Bydd angen i ni gael darlleniad mesurydd ar y diwrnod pan eich bod chi’n symud i mewn neu allan, ond dim ond osgellir gwneud hynny yn ddiogel. Os nad ydych chi’n siŵr ble mae eich mesurydd, siaradwch ag aelod o’n tîm ar Sgwrs Fyw a byddwn yn rhoi gwybod ichi ble i ddod o hyd iddo. Mae ein tîm ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, ac ar ddydd Sadwrn rhwng 8.30am a 1.30pm.
Os nad ydych chi’n gallu darllen y mesurydd am ba reswm bynnag a’n bod ni’n cael ychydig ddyddiau o rybudd, gallwn ddarllen y mesurydd ar eich rhan. Fel arall, gallwn amcangyfrif eich darlleniad.
Rhowch eich manylion i ni drwy lenwi un o’n ffurflenni a byddwn ni’n gwneud popeth arall. Byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwn ni wedi diweddaru eich cyfrif ac yn rhoi gwybod i chi faint y mae angen i chi ei dalu.
Nac oes
Os ydych chi’n gwybod pryd y byddwch chi’n symud i mewn, rhowch eich manylion i ni gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein a byddwn ninnau’n gwneud popeth arall. Byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwn ni wedi diweddaru eich cyfrif ac yn rhoi gwybod i chi faint y mae angen i chi ei dalu.
Nid wyf i’n gwybod
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod. Gallwch siarad ag aelod o’n tîm ar Sgwrs Fyw i gael cymorth i sicrhau bod eich cyfrif yn weithredol. Mae ein tîm ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, ac ar ddydd Sadwrn rhwng 8.30am a 1.30pm.
Os ydych chi’n fyfyriwr...
Os byddwch chi’n symud allan cyn diwedd ein blwyddyn ariannol, nid ydych yn gyfrifol am daliadau ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi’n symud allan.
Rhowch wybod i ni am eich dyddiad symud allan drwy lenwi ein ffurflen ar gyfer myfyrwyr sy’n symud cartref. Yna, gallwn gau eich cyfrif ar y dyddiad pan fyddwch yn symud ac ad-dalu unrhyw or-daliad am y cyfnod pan nad oeddech chi yn yr eiddo, neu anfon bil terfynol atoch os ydych chi’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu gynllun talu.
O.N - Rydym ni’n gobeithio y bydd y symud yn rhwydd!
Os ydych chi newydd symud i’r eiddo neu os oes gwaith wedi ei wneud yno, sicrhewch nad yw eich stopfalf mewnol / allanol wedi ei gau.
Edrychwch ar yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal – dyma ble ceir yr wybodaeth ddiweddaraf am waith sydd wedi ei gynllunio ac argyfyngau. A ydych chi wedi cael cerdyn rhybudd gennym i roi gwybod i chi y bydd toriad yn eich cyflenwad ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol?
Cliciwch yma i weld a allai unrhyw argyfyngau mawr yn ein rhanbarth chi fod wedi arwain at doriad dros dro yn eich cyflenwad dŵr.
Byddai’n ddefnyddiol pe byddech yn gwirio a oes unrhyw un yn gweithio y tu allan yn y stryd a allai fod wedi tarfu ar eich cyflenwad dŵr ac a allai fod wedi effeithio ar eich cymdogion hefyd cyn cysylltu â ni - diolch.
Os ydych chi’n sicr bod y broblem yn ymwneud â draen eich aelwyd chi yna byddai angen i chi gysylltu â Chontractwr draenio priodol.
Os, fodd bynnag, nad ydych chi’n siŵr o leoliad na’r cyfrifoldeb am y broblem, cysylltwch â ni ar 0800 085 3968.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am bob rhwystr ar y garthffos gyhoeddus. Mae hyn yn ein helpu i nodi ein blaenoriaethau a sicrhau bod y perygl o gael yr un peth yn digwydd eto yn cael ei leihau mor fuan â phosibl. Ffoniwch ni ar 0800 085 3968. Mae’r llinellau ar agor drwy’r dydd a’r nos, 7 diwrnod yr wythnos.
Pan fyddwch yn ein ffonio ni, bydd ein cynghorwyr yn rhoi amserlen i chi o bryd y gallwch chi ddisgwyl i ni gyrraedd eich eiddo.
Gallwch chi hefyd ddweud wrthym am unrhyw rwystrau drwy ddefnyddio ein ffurflen Adrodd am rwystr y gallwch ei chanfod yma.
Darllenwch ein taflen Gofal Llifogydd yma.